Catatonia

Gyda Gwen/New Mercurial Heights [Welsh Mix]

gyda gwên, o glust i glust,
fe oedd y cyntaf i basio'r pyst
mi roedd o’n hawdd, yn hollol naturiol
roedd rhai yn ei alw o'n ffôl
ond doedd ysteried byth yn dal o nôl
nid du a gwyn, ond hollol lliwgar

ond o, mae'n ddrwg gen i, wnest ti ddim ei weld o
ag o, mae'n chwith gen i, wnath o ddim rhagweld o

i deimlo'i hyn yn noeth,
ymhlith llif o syniadau doeth
roedd rhaid fo fod, yn unigolyn
diddanwch mewn pellter oer
yn ei fywyd, di-ffrwyth, ddi-glôd
mi awn fel hyn, heb unrhyw ysteried

ond o, mae'n ddrwg gen i, wnest ti ddim ei weld o
ag o, mae'n chwith gen i, wnath o ddim rhagweld o