Chris Jones

Dacw 'Nghariad

Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan,
O na bawn i yno fy hunan,
Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor;
Dacw ddrws y beudy'n agor.
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal.

Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal.
...
Dacw'r dderwen wych ganghennog,
Golwg arni sydd dra serchog.
Mi arhosaf yn ei chysgod

Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod.
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal.
...
Dacw'r delyn, dacw'r tannau;
Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae?
Dacw'r feinwen hoenus fanwl;
Beth wyf well heb gael ei meddwl?
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal